Hagis

Hagis
Mathpwdin sawrus, saig o gig, saig o offal Edit this on Wikidata
GwladYr Alban Edit this on Wikidata
Enw brodorolhaggis Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hagis gyda "neeps" a "tatties"

Math o bwdin sawrus sy'n cael ei gysylltu yn bennaf â'r Alban yw hagis. Mae'n cynnwys cynnwys syrth (calon, iau, ac ysgyfaint) dafad, ynghyd â nionyn, blawd ceirch, siwed, sbeisys, a halen, yn gymysg a stoc, ac yn draddodiadol wedi'i goginio yn stumog yr anifail.

Yn Lloegr y ceir y cofnod cynharaf o'r enw "hagws" neu "hagese", a hynny tua'r flwyddyn 1430, ond mae'r pryd yn cael ei ystyried o dras Albanaidd yn draddodiadol. Yno, mae'n cael ei alw'n y pryd cenedlaethol[1] o ganlyniad i'r gerdd a ysgrifennodd y bardd Robert Burns i gyfarch yr Hagis yn 1787. Mae hagis fel arfer yn cael ei fwyta gyda rwdan a thatws ("neeps and tatties"), wedi'u berwi a'u stwnsio ar wahan, ynghyd â diferyn o chwisgi, yn arbennig fel y prif gwrs mewn Swper Burns.

  1. "Food and Drink in Scotland – Scottish Cuisine". Scotland.org.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search